Nant Conwy started with some urgency in Ruthin’s last Division 1 North match of the season and had scored their bonus point try within 30 minutes of the start. After a converted try in the first few minutes of the game fly half Callum Bennett reduced the arrears with a penalty goal but that was to the Blues only score in the first half against a fast running and quick offloading Nant side. Ruthin’s attempts to get back in the game were often hampered by poor handling and infringements but their scrum performed well against a big Nant pack. Nant went further ahead with their fifth try just before half time and at the break Nant were 31-3 ahead. Nant’s scorers were Delwyn Jones, Tom Oliver, Iolo Evans, Carwyn Jones and Cai Jones. Straight after the break Sion Pringle bagged another converted try for Nant but after that Ruthin played much better and were rewarded with a try by wing Josh Wilson. A period of pressure from the Blues followed and after winning a scrum against the head in Nant’s 22 the ball was passed out to Wilson for his second try. Nant’s Eryl Jones got one back when the ball was passed out to him after a break from midfield but it was Ruthin that finished with a stronger period of play capped off by a fine try by full back Kyle Davies. At the close the score was 45-18 to Nant Conwy. Although the 1sts have not won any silver ware this season the 2nd team are still in with a chance of winning the Clwyd Cup for a 7th time and play Abergele in the semi-final at Caeddol on Friday 24th April KO 7:30pm.
Adroddiad Nant Conwy
Dau funud union gymrodd i Delwyn Jones, a oedd yn chwarae yn rhif 10 heddiw, sgorio cais cyntaf Nant Conwy ger y pyst. Trosodd ei gais ei hun cyn i Callum Bennett fod yn llwyddiannus gyda chic gosb wedi 6 munud. Daeth ail gais Nant wrth i Tom Oliver (rhif 5 ac ar fenthyg o Met. Caerdydd) wthio’i ffordd drosodd am gais wedi 9 munud. Trosiad arall gan Delwyn. Cyrhaeddodd trydydd cais Nant wrth i Iolo “Wenlli” Evans (rhif 12) dorri’r amddiffyn yn hyfryd a sgorio o dan y pyst wedi 24 munud. Dilynodd trosiad arall gan Delwyn. Carwyn Roberts (rhif 4) sgoriodd y cais a ddaeth ar pwynt bonws i Nant wedi hanner awr union yn dilyn cyfnod o hyrddio pwrpasol gan y pac. Ychydig cyn yr hanner, sgoriwyd pumed cais y tîm cartref wrth i Cai Jones (rhif 9) blymio trosodd o hyrddiad pwrpasol arall gan y pac. Sgôr o 31 – 3 a gafwyd ar yr hanner felly.
Er tegwch i Rhuthun, gwelwyd gwell perfformiad ganddynt yn yr ail hanner – hynny a Tîm Hyfforddwyr Nant yn penderfynu tynnu chwaraewyr i ffwrdd a rhoi cyfle i’r pum eilydd gan gadw llygaid ar y ddwy gêm Gynghrair sydd i’w chwarae tros y 7 niwrnod nesaf. Serch hynny, gwelwyd Sion Pringle (rhif 15 heddiw) yn gorffen symundiad da o basio wedi 2 funud o’r ail hanner i dirio o dan y pyst. Delwyn yn ychwanegu’r ddeubwynt. Tros y 10 munud nesaf, cwblhawyd dau symudiad gan yr ymwelwyr trwy’r asgellwr de, Josh Williams a sgoriodd ddau gais. Tipyn o chwarae yng nghanol y cae a gafwyd wedyn cyn i’r eilydd o fachwr, Eryl Jones, sgorio seithfed cais Nant wedi 32 munud trwy ryng gipio pêl yn gelfydd. Eto, ychwanegwyd y ddeubwynt gan Delwyn. Daeth sgôr a chais olaf y gêm drwy ddwylo Kyle Davies tros Rhuthun wedi 46 munud o’r ail hanner. Sgôr derfynol o 45 – 18 felly.